Numbers 13

Yr Ysbiwyr

(Deuteronomium 1:19-33)

1Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 2“Anfon ddynion i archwilio gwlad Canaan, sef y tir dw i'n ei roi i bobl Israel. Anfon un arweinydd o bob llwyth.”

3Felly dyma Moses yn eu hanfon nhw o anialwch Paran, fel roedd yr Arglwydd wedi dweud wrtho. Roedden nhw i gyd yn arweinwyr pobl Israel.
4Dyma eu henwau nhw:

Enw Llwyth
Shammwa fab Saccwr Reuben
Shaffat fab Chori Simeon
Caleb fab Jeffwnne Jwda
Igal fab Joseff Issachar
Hosea fab Nwn Effraim
Palti fab Raffw Benjamin
Gadiel fab Sodi Sabulon
Gadi fab Swsi Joseff (sef Manasse)
Ammiel fab Gemali Dan
Sethwr fab Michael Asher
Nachbi fab Foffsi Nafftali
Gewel fab Machi Gad

16Dyna enwau'r dynion anfonodd Moses i ysbïo'r wlad. Ac roedd Moses yn galw Hosea fab Nwn yn Josua.

17Pan anfonodd Moses nhw i archwilio gwlad Canaan, dwedodd fel hyn: “Ewch i fyny drwy'r Negef, ac ymlaen i'r bryniau. 18Edrychwch i weld sut wlad ydy hi. Ydy'r bobl yn gryf neu'n wan? Oes yna lawer ohonyn nhw, neu dim ond ychydig? 19Sut dir ydy e? Da neu drwg? Oes gan y trefi waliau i'w hamddiffyn, neu ydyn nhw'n agored? 20Beth am y pridd? Ydy e'n ffrwythlon neu'n wael? Oes yna fforestydd yno? Byddwch yn ddewr! Ewch yno, a dewch â peth o gynnyrch y tir yn ôl gyda chi.” (Roedd hi'r adeg o'r flwyddyn pan oedd y grawnwin aeddfed cyntaf yn cael eu casglu).

21Felly i ffwrdd â nhw. A dyma nhw'n archwilio'r wlad, yr holl ffordd o anialwch Sin yn y de i Rechob, wrth Fwlch Chamath yn y gogledd.

22Wrth fynd trwy'r Negef dyma nhw'n cyrraedd Hebron. Roedd yr Achiman, y Sheshai a'r Talmai yn byw yno, sef disgynyddion Anac. (Roedd tref Hebron wedi ei hadeiladu saith mlynedd cyn Soan yn yr Aifft.) 23Pan gyrhaeddon nhw ddyffryn Eshcol dyma nhw'n torri cangen oddi ar winwydden gyda un swp o rawnwin arni. Roedd rhaid cael dau i'w chario ar bolyn rhyngddyn nhw. A dyma nhw'n casglu pomgranadau a ffigys hefyd. 24Roedd y lle yn cael ei alw yn ddyffryn Eshcol (sef ‛swp o rawnwin‛) o achos y swp o rawnwin roedden nhw wedi ei gymryd oddi yno.

25Roedden nhw wedi bod yn archwilio'r wlad am bedwar deg diwrnod. 26A dyma nhw'n mynd yn ôl i Cadesh yn anialwch Paran at Moses ac Aaron a phobl Israel. A dyma nhw'n dweud wrth y bobl beth roedden nhw wedi ei weld, ac yn dangos y ffrwyth roedden nhw wedi ei gario yn ôl. 27Dyma nhw'n dweud wrth Moses, “Aethon ni i'r wlad lle gwnest ti'n hanfon ni. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo! A dyma beth o'i ffrwyth. 28Ond mae'r bobl sy'n byw yno yn gryfion, ac maen nhw'n byw mewn trefi caerog mawr. Ac yn waeth na hynny, mae disgynyddion Anac yn byw yno. 29Mae'r Amaleciaid yn byw yn y Negef, yr Hethiaid, Jebwsiaid ac Amoriaid yn byw yn y bryniau, a'r Canaaneaid yn byw ar yr arfordir ac ar lan Afon Iorddonen.”

30Ond yna dyma Caleb yn galw ar y bobl oedd yno gyda Moses i fod yn dawel. “Gadewch i ni fynd, a chymryd y wlad! Gallwn ni ei choncro!” 31Ond dyma'r dynion eraill oedd wedi mynd i archwilio'r wlad yn dweud, “Na, allwn ni ddim ymosod ar y bobl yno. Maen nhw'n llawer rhy gryf i ni!” 32A dyma nhw'n rhoi adroddiad gwael i bobl Israel. “Byddwn ni'n cael ein llyncu gan bobl y wlad buon ni'n edrych arni. Mae'r bobl welon ni yno yn anferth! 33Roedd yno gewri, sef disgynyddion Anac. Roedden ni'n teimlo'n fach fel pryfed wrth eu hymyl nhw, a dyna sut roedden nhw'n ein gweld ni hefyd!”

Copyright information for CYM